37 Os ydw i ddim yn gwneud gwaith fy Nhad peidiwch credu ynof fi.
38 Ond os dw i yn gwneud yr un fath â'm Tad, credwch yn yr hyn dw i'n ei wneud er eich bod chi ddim yn credu ynof fi. Wedyn dowch chi i wybod a deall fod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.”
39 Dyma nhw'n ceisio ei ddal unwaith eto, ond llwyddodd i ddianc o'u gafael nhw.
40 Yna aeth Iesu yn ôl ar draws Afon Iorddonen i'r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd Iesu yno
41 a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw yn dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn hwn yn wir.”
42 A daeth llawer i gredu yn Iesu yn y lle hwnnw.