10 Mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”
11 Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i i'n mynd yno i'w ddeffro.”
12 “Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.”
13 Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn golygu gorffwys naturiol.
14 Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw,
15 a dw i'n falch fy mod i ddim yno er eich mwyn chi. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”
16 Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd i farw gydag e!”