14 Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw,
15 a dw i'n falch fy mod i ddim yno er eich mwyn chi. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”
16 Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd i farw gydag e!”
17 Pan gyrhaeddodd Iesu, deallodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod.
18 Roedd Bethania llai na dwy filltir o Jerwsalem,
19 ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd.
20 Pan glywodd Martha fod Iesu'n dod, aeth allan i'w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ.