4 Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Dim marwolaeth fydd yn cael y gair olaf. Na, ei bwrpas ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.”
5 Roedd Iesu'n hoff iawn o Martha a'i chwaer a Lasarus.
6 Ac eto, ar ôl clywed fod Lasarus yn sâl, arhosodd Iesu lle roedd e am ddau ddiwrnod arall.
7 Yna dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
8 “Ond Rabbi,” medden nhw, “roedd yr arweinwyr Iddewig yn Jwdea yn ceisio dy ladd gynnau! Wyt ti wir am fynd yn ôl yno?”
9 Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy'r rhai sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddyn nhw olau'r haul.
10 Mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”