40 Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y byddi di'n gweld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?”
41 Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i.
42 Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll yma, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”
43 Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Lasarus, tyrd allan!”
44 A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi eu rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb.“Tynnwch nhw i ffwrdd” meddai Iesu, “a'i ollwng yn rhydd.”
45 Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y rhai oedd wedi dod i ymweld â Mair, a gweld beth wnaeth Iesu.
46 Ond aeth rhai ohonyn nhw at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi ei wneud.