1 Chwe diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw.)
2 Roedd swper wedi ei drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd.
3 Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed gyda'i gwallt. Roedd arogl y persawr i'w glywed drwy'r tŷ i gyd.
4 Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio,
5 “Roedd y persawr yna'n werth ffortiwn! Dylid bod wedi ei werthu, a rhoi'r arian i bobl dlawd!”
6 (Ond doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.)
7 “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw beth sydd ganddi ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu.