11 am fod llawer o bobl o Jwdea wedi eu gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e.
12 Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i'r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem.
13 Dyma nhw'n torri canghennau o'r coed palmwydd a mynd allan i'w gyfarfod gan weiddi, “Clod iddo!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”
14 Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,
15 “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy'n dod, ar gefn ebol asen.”
16 (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi eu hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.)
17 Roedd llawer iawn o'r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu'n galw Lasarus allan o'r bedd a dod ag e yn ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd.