40 “Mae'r Arglwydd wedi dallu eu llygaid a chaledu eu calonnau; Fel arall, bydden nhw'n gweld a'u llygaid, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.”
41 (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e'n siarad.)
42 Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfadde'n agored eu bod nhw'n credu am eu bod yn ofni'r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o'r synagog.
43 Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw.
44 Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i.
45 Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i.
46 Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch.