5 “Roedd y persawr yna'n werth ffortiwn! Dylid bod wedi ei werthu, a rhoi'r arian i bobl dlawd!”
6 (Ond doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.)
7 “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw beth sydd ganddi ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu.
8 Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.”
9 Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim yn unig i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e yn ôl yn fyw.
10 Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd,
11 am fod llawer o bobl o Jwdea wedi eu gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e.