1 “Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd.”
2 “Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i'n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi.
3 Wedyn dw i'n mynd i ddod yn ôl, a bydda i'n mynd â chi yno gyda mi, a chewch chi aros yno gyda mi.
4 Dych chi'n gwybod y ffordd i ble dw i'n mynd.”
5 “Ond Arglwydd,” meddai Tomos “dŷn ni ddim yn gwybod ble rwyt ti'n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?”
6 “Fi ydy'r ffordd,” atebodd Iesu, “Fi ydy'r un gwir, y bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.