1 “Dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi er mwyn i chi beidio troi cefn arna i.
2 Byddwch chi'n cael eich diarddel o'r synagog. Ac mae'r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw'n gwneud ffafr i Dduw trwy eich lladd chi.
3 Byddan nhw'n eich trin chi felly am eu bod nhw ddim wedi nabod y Tad na fi.
4 Ond dw i wedi dweud hyn i gyd wrthoch chi, wedyn pan ddaw'r amser hwnnw byddwch chi'n cofio fy mod i wedi eich rhybuddio chi. Wnes i ddim dweud hyn wrthoch chi ar y dechrau am fy mod i wedi bod gyda chi.
5 “Bellach dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi, a does neb ohonoch chi'n gofyn, ‘Ble rwyt ti'n mynd?’
6 Ond am fy mod wedi dweud hyn, dych chi'n llawn tristwch.