14 Bydd yn fy anrhydeddu i drwy gymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi.
15 Mae popeth sydd gan y Tad yn eiddo i mi hefyd, a dyna pam dw i'n dweud y bydd yr Ysbryd yn cymryd beth dw i'n ei ddweud a'i rannu gyda chi.
16 “Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.”
17 Dyma'i ddisgyblion yn gofyn i'w gilydd, “Beth mae'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedi hynny byddwch yn fy ngweld eto’? A beth mae ‘Am fy mod i'n mynd at y Tad’ yn ei olygu?
18 Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.”
19 Roedd Iesu'n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n trafod beth dw i'n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna'n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld eto.’
20 Credwch chi fi, Byddwch chi'n galaru ac yn crïo tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi'n llawenydd.