20 Credwch chi fi, Byddwch chi'n galaru ac yn crïo tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi'n llawenydd.
21 Mae gwraig mewn poen pan mae'n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni mae hi'n anghofio'r poen!
22 Yr un fath gyda chi: Dych chi'n teimlo'n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i yn eich gweld chi eto a byddwch chi'n dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi.
23 Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i'w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag a ofynnwch i mi am awdurdod i'w wneud.
24 Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!
25 “Dw i wedi bod yn defnyddio darluniau wrth siarad â chi hyd yn hyn, ond mae'r amser yn dod pan fydd dim angen gwneud hynny. Bydda i'n gallu siarad yn blaen gyda chi am fy Nhad.
26 Y diwrnod hwnnw byddwch yn gofyn i Dduw am fy awdurdod i. Dim fi fydd yn gofyn i'r Tad ar eich rhan chi.