23 Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i'w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag a ofynnwch i mi am awdurdod i'w wneud.
24 Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi'n wirioneddol hapus!
25 “Dw i wedi bod yn defnyddio darluniau wrth siarad â chi hyd yn hyn, ond mae'r amser yn dod pan fydd dim angen gwneud hynny. Bydda i'n gallu siarad yn blaen gyda chi am fy Nhad.
26 Y diwrnod hwnnw byddwch yn gofyn i Dduw am fy awdurdod i. Dim fi fydd yn gofyn i'r Tad ar eich rhan chi.
27 Na, mae'r Tad ei hun yn eich caru chi am eich bod chi wedi fy ngharu i, ac am eich bod chi wedi credu fy mod wedi dod oddi wrth y Tad.
28 Dw i wedi dod i'r byd oddi wrth y Tad, a dw i ar fin gadael y byd a mynd yn ôl at y Tad.”
29 “Nawr rwyt ti'n siarad yn blaen!” meddai'r disgyblion. “Dim darluniau i'w dehongli.