7 Ond credwch chi fi: Mae o fantais i chi fy mod i'n mynd i ffwrdd. Os wna i ddim mynd, fydd yr un sy'n sefyll gyda chi ddim yn dod; ond pan af fi, bydda i'n ei anfon atoch chi.
8 Pan ddaw, bydd yn dangos fod syniadau'r byd o bechod, cyfiawnder a barn yn anghywir:
9 o bechod am eu bod nhw ddim yn credu ynof fi;
10 o gyfiawnder am fy mod i'n mynd at y Tad, a fyddwch chi ddim yn dal i ngweld i mwyach;
11 ac o farn am fod Duw eisoes wedi condemnio Satan, tywysog y byd hwn.
12 “Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond mae'n ormod i chi ei gymryd ar hyn o bryd.
13 Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae'n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd.