4 Yna aeth Peilat allan eto a dweud wrth y dyrfa, “Dw i'n dod ag e allan eto, i chi wybod fy mod i ddim yn ei gael e'n euog o unrhyw drosedd.”
5 Daeth Iesu allan yn gwisgo'r goron ddrain a'r clogyn borffor, ac meddai Peilat wrthyn nhw, “Edrychwch, dyma'r dyn!”
6 Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a'u swyddogion e, dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!”Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a'i groeshoelio eich hunain! Lle dw i'n y cwestiwn, mae e'n ddieuog.”
7 “Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai'r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae'n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw ei hun yn Fab Duw.”
8 Pan glywodd Peilat hyn, roedd yn ofni fwy fyth.
9 Aeth yn ôl i mewn i'r palas a gofyn i Iesu, “O ble wyt ti wedi dod?” Ond roddodd Iesu ddim ateb iddo.
10 “Wyt ti'n gwrthod siarad â fi?” meddai Peilat. “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai fi sydd â'r awdurdod i naill ai dy ryddhau di neu i dy groeshoelio di?”