1 Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno,
2 ac roedd Iesu a'i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i'r briodas hefyd.
3 Pan doedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu'n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.”
4 Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Paid busnesa. Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”