10 ac meddai wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â'r gwin gorau allan gyntaf a'r gwin rhad yn nes ymlaen ar ôl i'r gwesteion gael gormod i'w yfed. Pam wyt ti wedi cadw'r gorau i'r diwedd?”
11 Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu fel arwydd o pwy oedd. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma'i ddisgyblion yn credu ynddo.
12 Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum gyda'i fam a'i frodyr a'i ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau.
13 Roedd yn amser Gŵyl y Pasg (un o wyliau'r Iddewon), a dyma Iesu'n mynd i Jerwsalem.
14 Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a colomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian.
15 Felly gwnaeth chwip o reffynnau, a'u gyrru nhw i gyd allan o'r deml gyda'r defaid a'r ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd.
16 Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod “Ewch â'r rhain allan oddi yma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”