21 (Ond y deml oedd Iesu'n sôn amdani oedd ei gorff.
22 Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhw'n credu'r ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)
23 Tra roedd Iesu yn Jerwsalem yn ystod Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wedi ei weld e'n gwneud arwyddion gwyrthiol.
24 Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd e'n deall pobl i'r dim.
25 Doedd dim angen neb i esbonio iddo, am ei fod e'n gwybod yn iawn sut mae'r meddwl dynol yn gweithio.