13 Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam rwyt ti'n crïo?”“Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e”
14 Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll o'i blaen. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e.
15 “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam rwyt ti'n crïo? Am bwy rwyt ti'n chwilio?”Roedd hi'n meddwl mai'r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi ei symud, dywed lle rwyt ti wedi ei roi e, a bydda i'n mynd i'w nôl e.”
16 Yna dyma Iesu'n dweud, “Mair.”Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy'n golygu ‛Athro‛).
17 Dyma Iesu'n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd at fy Nhad a'm Duw, eich Tad a'ch Duw chi hefyd.’”
18 Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi ei ddweud wrthi.
19 Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda'i gilydd. Er bod y drysau wedi eu cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu'n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw.