18 Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi ei ddweud wrthi.
19 Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda'i gilydd. Er bod y drysau wedi eu cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu'n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw.
20 Yna dangosodd ei ddwylo a'i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw'r Arglwydd.
21 Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.”
22 Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân.
23 Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.”
24 Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos (Tomos oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛ – un o'r deuddeg disgybl).