8 Yna, yn y diwedd, dyma'r disgybl arall (oedd wedi cyrraedd y bedd gyntaf) yn mynd i mewn hefyd. Pan welodd e'r cwbl, credodd.
9 (Doedden nhw ddim eto wedi deall fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud fod rhaid i Iesu ddod yn ôl yn fyw.)
10 Aeth y disgyblion yn ôl adre,
11 ond safodd Mair wrth ymyl y bedd yn crïo. Plygodd i lawr i edrych i mewn i'r bedd
12 a gweld dau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle roedd corff Iesu wedi cael ei roi i orwedd – un wrth y pen a'r llall wrth y traed.
13 Dyma nhw'n gofyn i Mair, “Wraig annwyl, pam rwyt ti'n crïo?”“Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd,” atebodd, “a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e”
14 Dyna pryd y trodd hi rownd a gweld rhywun yn sefyll o'i blaen. Iesu oedd yno, ond doedd hi ddim yn sylweddoli mai Iesu oedd e.