2 Yn Jerwsalem wrth ymyl Giât y Defaid mae pwll o'r enw Bethsatha (enw Hebraeg). O gwmpas y pwll mae pum cyntedd colofnog gyda tho uwchben pob un.
3 Roedd nifer fawr o bobl anabl yn gorwedd yno – rhai yn ddall, eraill yn gloff neu wedi eu parlysu.
5 Roedd un dyn yno oedd wedi bod yn anabl ers tri deg wyth o flynyddoedd.
6 Gwelodd Iesu e'n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
7 “Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”
8 Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.”
9 A dyma'r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon,