21 Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae'r Tad yn codi'r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw.
22 Hefyd, dydy'r Tad ddim yn barnu neb – mae wedi rhoi'r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab,
23 er mwyn i bawb anrhydeddu'r Mab yn union fel y maen nhw'n anrhydeddu'r Tad. Pwy bynnag sy'n gwrthod anrhydeddu'r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw'r Tad anfonodd y Mab i'r byd.
24 “Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy'n gwrando ar beth dw i'n ei ddweud, ac yn credu yn Nuw wnaeth fy anfon i. Dyn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw.
25 Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw.
26 Fel mae gan y Tad fywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill, mae wedi caniatáu i'r Mab fod a bywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill.
27 Ac mae hefyd wedi rhoi'r awdurdod iddo i farnu am mai fe ydy Mab y Dyn.