25 Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw.
26 Fel mae gan y Tad fywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill, mae wedi caniatáu i'r Mab fod a bywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill.
27 Ac mae hefyd wedi rhoi'r awdurdod iddo i farnu am mai fe ydy Mab y Dyn.
28 “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae'r amser yn dod pan fydd pawb sy'n eu beddau yn clywed llais Mab Duw
29 ac yn dod allan – bydd y rhai sydd wedi gwneud daioni yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drygioni yn codi i gael eu barnu.
30 Ond dw i'n gwneud dim ohono i'n hun; dw i'n barnu yn union fel dw i'n clywed. A dw i'n dyfarnu'n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.
31 “Petawn i ond yn tystio ar fy rhan fy hun, fyddai'r dystiolaeth ddim yn ddilys.