27 Ac mae hefyd wedi rhoi'r awdurdod iddo i farnu am mai fe ydy Mab y Dyn.
28 “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae'r amser yn dod pan fydd pawb sy'n eu beddau yn clywed llais Mab Duw
29 ac yn dod allan – bydd y rhai sydd wedi gwneud daioni yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drygioni yn codi i gael eu barnu.
30 Ond dw i'n gwneud dim ohono i'n hun; dw i'n barnu yn union fel dw i'n clywed. A dw i'n dyfarnu'n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.
31 “Petawn i ond yn tystio ar fy rhan fy hun, fyddai'r dystiolaeth ddim yn ddilys.
32 Ond mae un arall sy'n rhoi tystiolaeth o'm plaid i, a dw i'n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys.
33 “Dyma chi'n anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr a rhoddodd dystiolaeth i chi am y gwir.