34 Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i'n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub.
35 Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a dyma chi'n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod.
36 “Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i'n ei wneud (y gwaith mae'r Tad wedi ei roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i.
37 Ac mae'r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld!
38 Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e'n ddweud, achos dych chi'n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi ei anfon.
39 Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny.
40 Ac eto dych chi'n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!