39 Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny.
40 Ac eto dych chi'n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!
41 “Dw i ddim yn edrych am ganmoliaeth pobl.
42 Dw i'n eich nabod chi'n iawn. Dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn.
43 Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi'n fy ngwrthod i; ond os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e!
44 Sut allwch chi gredu? Dych chi'n mwynhau canmol eich gilydd, tra'n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy'n dod oddi wrth yr unig Dduw.
45 “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno.