40 Ac eto dych chi'n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!
41 “Dw i ddim yn edrych am ganmoliaeth pobl.
42 Dw i'n eich nabod chi'n iawn. Dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn.
43 Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi'n fy ngwrthod i; ond os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e!
44 Sut allwch chi gredu? Dych chi'n mwynhau canmol eich gilydd, tra'n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy'n dod oddi wrth yr unig Dduw.
45 “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno.
46 Tasech chi wir yn credu Moses, byddech chi'n fy nghredu i, achos amdana i ysgrifennodd Moses!