6 Gwelodd Iesu e'n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
7 “Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”
8 Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.”
9 A dyma'r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon,
10 felly dyma'r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae'n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti'n torri'r gyfraith wrth gario dy fatras!”
11 Ond atebodd, “Ond y dyn wnaeth fy iacháu i – dwedodd wrtho i, ‘Cod dy fatras a cherdda.’”
12 Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Pwy ydy'r dyn ddwedodd hynny wrthot ti?”