1 Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw yn fwriadol o Jwdea am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd.
2 Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll (un arall o wyliau'r Iddewon) yn agos,
3 dyma frodyr Iesu'n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i'r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau wyt ti'n eu gwneud!
4 Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o'r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau hyn, dangos dy hun i bawb!”
5 (Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.)
6 “Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd.