11 Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw.
12 Roedd llawer o siarad amdano'n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl.
13 Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig.
14 Roedd hi dros hanner ffordd drwy'r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno.
15 Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Ble cafodd y dyn y fath wybodaeth heb fod wedi cael ei hyfforddi?”
16 Atebodd Iesu, “Dim fi biau'r ddysgeidiaeth. Mae'n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi.
17 Bydd pwy bynnag sy'n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i'n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a fy mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun.