23 Nawr, os ydy'n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth?
24 Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”
25 Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy'r dyn maen nhw'n ceisio'i ladd?
26 Dyma fe'n siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw'n dweud dim! Tybed ydy'r awdurdodau wedi dod i'r casgliad mai fe ydy'r Meseia?
27 Ond wedyn, dŷn ni'n gwybod o ble mae'r dyn hwn yn dod; pan ddaw'r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae'n dod.”
28 Roedd Iesu'n dal i ddysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, a dyma fe'n cyhoeddi'n uchel, “Ydych chi'n fy nabod i, ac yn gwybod o ble dw i'n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw sydd wedi fy anfon i go iawn, a dych chi ddim yn ei nabod e.
29 Dw i'n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy'r un anfonodd fi.”