30 Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw'n ceisio'i ddal, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto.
31 Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw'r Meseia, fydd e'n gallu cyflawni mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?”
32 Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o'r deml i'w arestio.
33 Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i'n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi.
34 Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.”
35 Meddai'r arweinwyr Iddewig, “I ble mae'r dyn yma'n bwriadu mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e'n mynd at ein pobl ni sy'n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny?
36 Beth mae'n e'n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi'n methu dod i ble bydda i’?”