36 Beth mae'n e'n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi'n methu dod i ble bydda i’?”
37 Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu'n sefyll ac yn cyhoeddi'n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i.
38 Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd yn llifo o'r rhai hynny!’”
39 (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi ei anrhydeddu.)
40 Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o'r bobl yn dweud, “Mae'n rhaid mai'r Proffwyd soniodd Moses amdano ydy'r dyn hwn!”
41 Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dal i ofyn, “Sut all y Meseia ddod o Galilea?
42 Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu y Brenin Dafydd, ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?”