38 Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy'n rhoi bywyd yn llifo o'r rhai hynny!’”
39 (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi ei anrhydeddu.)
40 Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o'r bobl yn dweud, “Mae'n rhaid mai'r Proffwyd soniodd Moses amdano ydy'r dyn hwn!”
41 Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dal i ofyn, “Sut all y Meseia ddod o Galilea?
42 Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu y Brenin Dafydd, ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?”
43 Felly roedd y dyrfa wedi eu rhannu – rhai o'i blaid ac eraill yn ei erbyn.
44 Roedd rhai eisiau ei arestio, ond lwyddodd neb i'w gyffwrdd.