45 Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?”
46 “Does neb erioed wedi siarad fel y dyn hwn,” medden nhw.
47 “Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wedi'ch twyllo chi hefyd?”
48 “Oes unrhyw un o'r arweinwyr neu o'r Phariseaid wedi credu ynddo?
49 Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy'n gwybod dim byd am y Gyfraith – ac maen nhw dan felltith beth bynnag!”
50 Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu'n gynharach), a gofynnodd,
51 “Ydy'n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf er mwyn darganfod y ffeithiau?”