48 “Oes unrhyw un o'r arweinwyr neu o'r Phariseaid wedi credu ynddo?
49 Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy'n gwybod dim byd am y Gyfraith – ac maen nhw dan felltith beth bynnag!”
50 Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu'n gynharach), a gofynnodd,
51 “Ydy'n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf er mwyn darganfod y ffeithiau?”
52 Medden nhw wrtho “Wyt ti'n dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn i'r peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!”
53 Yna dyma nhw i gyd yn mynd adre.