6 “Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd.
7 Dydy'r byd ddim yn gallu'ch casáu chi, ond mae'n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae'n ei wneud yn ddrwg.
8 Ewch chi i'r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i'r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.”
9 Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea.
10 Fodd bynnag, ar ôl i'w frodyr fynd i'r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno'n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd.
11 Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw.
12 Roedd llawer o siarad amdano'n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl.