7 Dydy'r byd ddim yn gallu'ch casáu chi, ond mae'n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae'n ei wneud yn ddrwg.
8 Ewch chi i'r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i'r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.”
9 Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea.
10 Fodd bynnag, ar ôl i'w frodyr fynd i'r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno'n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd.
11 Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw.
12 Roedd llawer o siarad amdano'n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl.
13 Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig.