10 Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?”
11 “Nac oes syr, neb” meddai.“Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.”
12 Pan roedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
13 Ond dyma'r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.”
14 Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd.
15 Dych chi'n barnu yn ôl safonau dynol; dw i'n barnu neb felly.
16 Ond pan dw i'n barnu, dw i'n dyfarnu'n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae'r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi.