21 Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i'n mynd i ffwrdd. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i'n mynd.”
22 Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?”
23 Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi'n dod o'r ddaear; dw i'n dod oddi uchod. O'r byd hwn dych chi'n dod; ond dw i ddim yn dod o'r byd hwn.
24 Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod.”
25 “Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi ei ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu.
26 “Mae gen i lawer i'w ddweud amdanoch chi, a digon i'w gondemnio. Mae'r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi ei glywed ganddo fe dw i'n ei gyhoeddi i'r byd.”
27 Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad.