27 Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad.
28 Felly dwedodd Iesu, “Pan byddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, dyna pryd byddwch chi'n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae'r Tad wedi ei ddysgu i mi.
29 Mae'r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy'n ei blesio.”
30 Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra roedd yn siarad.
31 A dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch chi afael yn beth dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi'n ddilynwyr go iawn i mi.
32 Byddwch yn dod i wybod beth sy'n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi.”
33 “Dŷn ni'n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n cael bod yn rhydd’?”