3 Tra roedd yn dysgu'r bobl dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhw'n ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb,
4 ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, mae'r wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi.
5 Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o'r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig. Beth wyt ti'n ei ddweud am y mater?”
6 (Roedden nhw'n defnyddio'r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu'n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda'i fys yn y llwch ar lawr.
7 Ond wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion ddim wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi.”
8 Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar lawr.
9 Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen.