33 “Dŷn ni'n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti'n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi'n cael bod yn rhydd’?”
34 Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy'n pechu wedi ei gaethiwo gan bechod.
35 Dydy caethwas ddim yn perthyn i'r teulu mae'n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth.
36 Felly os ydy'r Mab yn rhoi eich rhyddid i chi byddwch yn rhydd go iawn.
37 Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ei ddweud go iawn.
38 Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi ei weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.”
39 “Abraham ydy'n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi'n gwneud beth wnaeth Abraham.