35 Dydy caethwas ddim yn perthyn i'r teulu mae'n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth.
36 Felly os ydy'r Mab yn rhoi eich rhyddid i chi byddwch yn rhydd go iawn.
37 Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ei ddweud go iawn.
38 Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi ei weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.”
39 “Abraham ydy'n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi'n gwneud beth wnaeth Abraham.
40 Ond dyma chi, yn benderfynol o'm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi'r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud pethau felly!
41 Na, gwneud y pethau mae'ch tad chi'n eu gwneud dych chi.”“Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy'r unig Dad sydd gynnon ni.”