42 “Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi'n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i.
43 Pam dydy fy ngeiriau i ddim yn gwneud synnwyr i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i.
44 Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi'n fodlon gwneud beth mae'ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o'r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i'r gwir ynddo. Pan mae'n dweud celwydd, mae'n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e, a thad pob celwydd!
45 Ond dw i'n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i!
46 Oes unrhyw un ohonoch chi'n gallu profi fy mod i'n euog o bechu? Felly pam dych chi'n gwrthod credu pan dw i'n dweud y gwir?
47 Mae pwy bynnag sy'n blentyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn blant i Dduw.”
48 “Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni'n iawn. Mae cythraul ynot ti!”