45 Ond dw i'n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i!
46 Oes unrhyw un ohonoch chi'n gallu profi fy mod i'n euog o bechu? Felly pam dych chi'n gwrthod credu pan dw i'n dweud y gwir?
47 Mae pwy bynnag sy'n blentyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn blant i Dduw.”
48 “Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni'n iawn. Mae cythraul ynot ti!”
49 “Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i'n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi'n fy sarhau i.
50 Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy'n ei geisio, a fe ydy'r un sy'n barnu.
51 Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy'n dal gafael yn yr hyn dw i wedi ei ddangos iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.”