Mathew 10 BNET

Iesu'n anfon y deuddeg allan

1 Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw ysbrydion drwg allan o bobl a iacháu pob afiechyd a salwch.

2 Dyma enwau'r deuddeg oedd i'w gynrychioli: Simon (oedd yn cael ei alw yn Pedr), Andreas (brawd Pedr), Iago fab Sebedeus, Ioan (brawd Iago),

3 Philip, Bartholomeus, Tomos, a Mathew (oedd yn casglu trethi i Rufain), Iago fab Alffeus, Thadeus,

4 Simon y Selot a Jwdas Iscariot (yr un a'i bradychodd).

5 Nhw oedd y deuddeg anfonodd Iesu allan. A dyma fe'n rhoi'r cyfarwyddiadau yma iddyn nhw: “Peidiwch mynd at y cenhedloedd eraill nac i mewn i un o bentrefi'r Samariaid.

6 Ewch yn lle hynny at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll.

7 Dyma'r neges i chi ei chyhoeddi wrth fynd: ‘Mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.’

8 Ewch i iacháu pobl sy'n glaf, dod â phobl sydd wedi marw yn ôl yn fyw, iacháu'r rhai sy'n dioddef o'r gwahanglwyf, a bwrw allan gythreuliaid o fywydau pobl. Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.

9 Peidiwch cymryd arian, na hyd yn oed newid mân, gyda chi;

10 dim bag teithio, na dillad sbâr na sandalau sbâr na ffon. Mae'r gweithiwr yn haeddu ei fara menyn.

11 “Ble bynnag ewch chi, i dref neu bentref, edrychwch am rywun sy'n barod i'ch croesawu, ac aros yng nghartre'r person hwnnw nes byddwch yn gadael yr ardal.

12 Wrth fynd i mewn i'r cartref, cyfarchwch y rhai sy'n byw yno.

13 Os oes croeso yno, bydd yn cael ei fendithio; os oes dim croeso yno, cymerwch y fendith yn ôl.

14 Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi croeso i chi ac yn gwrthod gwrando ar eich neges chi, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed pan fyddwch yn gadael y tŷ neu'r dref honno.

15 Credwch chi fi, bydd hi'n well ar dir Sodom a Gomorra ar ddydd y farn nag ar y dref honno!

16 Dw i'n eich anfon chi allan fel defaid i ganol pac o fleiddiaid. Felly byddwch yn graff fel nadroedd ond yn ddiniwed fel colomennod.

Rhybudd am drafferthion

17 “Gwyliwch eich hunain! Bydd pobl yn eich dwyn o flaen yr awdurdodau ac yn eich chwipio yn eu synagogau.

18 Cewch eich llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd a'ch cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi, a byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw ac i bobl o wledydd eraill amdana i.

19 Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i'w ddweud o flaen y llys na sut i'w ddweud. Bydd y peth iawn i'w ddweud yn dod i chi ar y pryd.

20 Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi.

21 “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni, ac yn eu rhoi i'r awdurdodau i'w dienyddio.

22 Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael eu hachub.

23 Pan fyddwch yn cael eich erlid yn un lle, ffowch i rywle arall. Credwch chi fi, fyddwch chi ddim wedi gorffen mynd trwy drefi Israel cyn i mi, Mab y Dyn, ddod mewn gogoniant.

24 “Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro, a dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.

25 Mae'n ddigon i ddisgybl fod yn debyg i'w athro, ac i gaethwas fod yn gyfartal â'i feistr. Os ydy pennaeth y tŷ yn cael ei alw'n Beelsebwl (hynny ydy y diafol), ydy pawb arall yn y teulu yn disgwyl cael pethau'n haws?

Pwy i'w ofni

26 “Felly peidiwch â'u hofni nhw. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu.

27 Yr hyn dw i'n ei ddweud o'r golwg, dwedwch chi'n agored yng ngolau dydd; beth sy'n cael ei sibrwd yn eich clust, cyhoeddwch yn uchel o bennau'r tai.

28 Peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw'n gallu lladd y corff ond fedran nhw ddim lladd y person go iawn. Duw ydy'r un i'w ofni – mae'r gallu ganddo e i ddinistrio'r person a'i gorff yn uffern.

29 Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân! Ond does dim un aderyn bach yn syrthio'n farw heb i'ch Tad wybod am y peth.

30 Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi!

31 Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to!

Arddel neu wadu Iesu

32 “Pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau'n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi.

33 Ond pwy bynnag sy'n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau'n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw'n perthyn i mi.

Cost dilyn Iesu

34 “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i'r byd! Dw i ddim yn dod â heddwch, ond cleddyf.

35 Dw i wedi dod i droi ‘mab yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam; merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –

36 Bydd eich teulu agosaf yn troi'n elynion i chi.’

37 “Dydy'r sawl sy'n caru ei dad a'i fam yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi; a dydy'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu perthyn i mi;

38 Dydy'r sawl sydd ddim yn codi ei groes, a cherdded yr un llwybr o hunanaberth â mi, ddim yn haeddu perthyn i mi.

39 Bydd y sawl sy'n ceisio amddiffyn ei fywyd yn colli'r bywyd go iawn, ond y sawl sy'n barod i ollwng gafael ar ei fywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn iddo'i hun.

Gwobrau

40 “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i chi yn rhoi croeso i mi, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn rhoi croeso i Dduw, yr un sydd wedi f'anfon i.

41 Bydd pwy bynnag sy'n rhoi croeso i broffwyd am ei fod yn cyhoeddi neges Duw yn derbyn yr un wobr â'r proffwyd, a phwy bynnag sy'n rhoi croeso i un cyfiawn am ei fod yn gwneud beth sy'n iawn yng ngolwg Duw yn derbyn yr un wobr â'r un cyfiawn.

42 Does ond rhaid i rywun roi diod o ddŵr oer i un o'r rhai bach yma sy'n ddilynwyr i mi, a chredwch chi fi, bydd y person yna'n siŵr o gael ei wobr.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28