1 Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea.
2 Dyma'r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”
3 Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”
4 Roedd dillad Ioan wedi eu gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5 Roedd pobl o Jerwsalem a phob man arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato.
6 Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn Afon Iorddonen.
7 Dyma rai o'r Phariseaid a'r Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?
8 Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod chi wedi newid go iawn.
9 A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!
10 Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!
11 “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi, fel arwydd eich bod chi'n troi at Dduw. Ond ar fy ôl i mae un llawer mwy grymus na fi yn dod – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas iddo hyd yn oed, i gario ei sandalau. Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân.
12 Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu ei wenith i'r ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.”
13 Bryd hynny daeth Iesu o Galilea at Afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan.
14 Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt ti'n dod ata i?”
15 Atebodd Iesu, “Gwna beth dw i'n ei ofyn; dyma sy'n iawn i'w wneud.” Felly cytunodd Ioan i'w fedyddio.
16 Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o'r dŵr, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno.
17 A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr.”